With ‘No Mow May’ well underway, here is a wonderful selection of photographs from our hives in University Hospital Llandough to prove that all of our efforts are paying off and helping the bees thrive.
Tips from our beekeepers to keep up the good work…
1. Leave your lawnmower in the shed for the whole month of May and let those flowers grow.
2. Develop a ‘No Mow Zone’ – only mow specific areas of your lawn or mow the lawn in a pattern. That way, you still leave plenty of plants there to attract the pollinators.
3. Try to avoid cutting Dandelions – Each dandelion head contains up to 100 individual flowers, known as florets, which contain nectar and pollen.

Gyda ‘No Mow May’ yn prysur fynd rhagddo, dyma ddetholiad hyfryd o luniau o’n cychod gwenyn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i brofi bod ein holl ymdrechion yn llwyddo ac yn helpu’r gwenyn i ffynnu.
Awgrymiadau gan ein gwenynwyr i ddal ati gyda’r gwaith da…
1. Gadewch eich peiriant torri lawnt yn y sied trwy gydol mis Mai a rhowch gyfle i’r blodau dyfu.
2. Datblygwch ‘Ardal Dim Torri Lawnt’ – torrwch ardaloedd penodol o’ch lawnt yn unig neu torrwch y lawnt mewn patrwm. Trwy wneud hyn, rydych chi’n dal i adael digon o blanhigion i ddenu’r peillwyr.
3. Ceisiwch osgoi torri dant y llew – mae pen pob blodyn dant y llew yn cynnwys hyd at 100 o flodau unigol, a elwir yn flodigion, sy’n cynnwys neithdar a phaill.
