Our green spaces – Ein mannau gwynedd

Green Growth Wales: Investing in the Future

Our green spaces, like Our Orchard and hospital gardens where the natural environment is allowed to flourish, offer havens to humans and wildlife alike. Yet it is only in recent years that the importance of the green infrastructure is being recognised in policies for multiple social, economic and environmental benefits.

Quality green spaces can reduce pollution, linked to asthma and heart disease, reduce symptoms of depression and mental illness, alleviate flood risk, provide wildlife habitats and increase biodiversity, productivity and innovation and provide spaces for community cohesion.

Improving our environments, whether natural or urban, is a critical issue for communities in Wales. It is not just a matter of poor aesthetics but significant for our health. The quality of our environment cannot be separated from other aspects of our daily life and is intrinsically linked to our sense of place and sense of wellbeing.

We hope that the Health community and our partnerships will support our vision to provide a space that will become a haven for all.

 

Twf Gwyrdd Cymru: Buddsoddi yn y Dyfodol 

Mae ein mannau gwyrdd, fel Ein Perllan a gerddi ysbytai lle mae’r amgylchedd naturiol yn cael lle i ffynnu, yn cynnig hafanau i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd. Ond dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae pwysigrwydd seilwaith gwyrdd yn cael ei gydnabod mewn polisïau am ei fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol lu. 

Gall mannau gwyrdd o ansawdd leihau llygredd, sy’n gysylltiedig ag asthma a chlefyd y galon, lleddfu symptomau o iselder a salwch meddwl, lleihau’r risg o lifogydd, darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt, cynyddu bioamrywiaeth, cynhyrchedd ac arloesedd a chynnig lle ar gyfer cydlyniad cymunedol. 

Mae gwella ein hamgylcheddau, p’un a ydynt yn rhai naturiol neu ddinesig, yn fater allweddol i gymunedau yng Nghymru. Nid yw’n ymwneud ag estheteg annymunol yn unig; mae’n arwyddocaol ar gyfer ein hiechyd. Ni all ansawdd ein hamgylchedd gael ei wahanu oddi wrth agweddau eraill o’n bywyd bob dydd ac mae’n gysylltiedig yn y bôn â’n hymdeimlad o le a’n hymdeimlad o les. 

Rydym yn gobeithio y bydd y gymuned iechyd a’n partneriaethau yn cefnogi ein gweledigaeth i ddarparu lle a fydd yn hafan i bawb.